Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
29 Tachwedd 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(20 munud)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Russell George (Sir Drefaldwyn): O ystyried y cyhoeddwyd gorwariant o 23 y cant ar y prosiect i ddeuoli'r A465 rhwng y Fenni a Hirwaun, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau o ble y daw'r adnoddau ychwanegol i gyllido hyn?
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith y llifogydd diweddar ar rwydwaith ffyrdd Ynys Môn?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i gomisiynu ymchwiliad annibynnol i honiadau o gam-drin ar Ynys Bŷr?
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Leanne Wood (Rhondda): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o asesiadau effaith Brexit Llywodraeth y DU ar ôl iddynt gael eu rhyddhau ddydd Mawrth?
(5 munud)
(60 munud)
NDM6573 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn unol â'r amodau hyn:
1. Y dylid cynnal cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor ar y cyfle cyntaf i sefydlu ymchwiliad i'r honiadau a wnaed gan gyn-aelodau a chynghorwyr i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â bwlio, bygwth a thanseilio Gweinidogion.
2. Y dylai'r Pwyllgor sefydlu'r canlynol fel rhan o'i ymchwiliad:
a) pryd y gwnaed honiadau i'r Prif Weinidog a/neu ei swyddfa;
b) sut yr ymchwiliwyd i'r honiadau;
c) pa gamau a gymerwyd o ganlyniad i unrhyw ymchwiliad;
d) rôl y Prif Weinidog a'i swyddfa yn y broses o ymdrin â'r materion hyn; ac
e) dilysrwydd yr atebion a roddwyd gan y Prif Weinidog i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r honiadau hynny.
3. Y dylai'r Pwyllgor gymryd tystiolaeth gan dystion fel rhan o'i waith.
4. Y dylai'r Pwyllgor baratoi adroddiad ar ei ganfyddiadau i'r Cynulliad erbyn hanner tymor mis Chwefror 2018.
Cefnogwr:
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i nodi:
1. Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i benodi panel o gynghorwyr annibynnol i ddarparu ffynhonnell allanol o gyngor arbenigol ar ymddygiad Gweinidogol yn unol â’r hyn sy’n ofynnol o dan God y Gweinidogion, fel y nodwyd yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 23 Tachwedd 2017;
2. Bod James Hamilton, sy’n gynghorydd annibynnol i Lywodraeth yr Alban ar hyn o bryd, wedi ei benodi’n gynghorydd annibynnol i Lywodraeth Cymru;
3. Bod y Prif Weinidog wedi cyfeirio’i hun at James Hamilton mewn perthynas â honiadau, a wnaed yn y pythefnos diwethaf, iddo weithredu’n groes i God y Gweinidogion; a
4. Adroddiad terfynol y Cynghorydd Annibynnol pan fydd yn cael ei gyhoeddi.
Datganiad Ysgrifenedig
Cod y Gweinidogion – Tachwedd 2017
(60 munud)
NDM6521
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
David Melding (Canol De Cymru)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y gall inswleiddio waliau ceudod, pan y caiff ei wneud yn gywir mewn eiddo addas, fod yn ffordd gost effeithiol o leihau biliau tanwydd, gan gyfrannu at leihau allyriadau carbon a thlodi tanwydd.
2. Yn credu, fodd bynnag, fod lleiafrif sylweddol o osodiadau yn parhau mewn eiddo anaddas ac eiddo nad yw'n cydymffurfio â safonau gwaith da, a bod ceisio cael iawn am hynny yn aml yn anodd a'r iawndal yn aml yn annigonol neu'n amhosibl ei gael.
3. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Cavity Insulation Guarantee Agency ac eraill i ddarparu iawndal priodol ac iawndal ar gyfer gwaith a gaiff ei osod yn anghywir, ac i gryfhau'r prosesau ar gyfer diogelu defnyddwyr yn y dyfodol.
Cefnogwyd
gan:
Mick Antoniw (Pontypridd)
Russell George (Sir Drefaldwyn)
Sian Gwenllian (Arfon)
(60 munud)
NDM6594 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r rôl hanfodol y mae staff rheng flaen Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei chwarae o ran cyflenwi gwasanaethau a chefnogi cleifion ar draws gogledd Cymru.
2. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig ym mis Mehefin 2015.
3. Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â mynd i'r afael ag amseroedd aros cynyddol yng ngogledd Cymru a sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd wrth iddi waethygu.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) egluro pa gamau y mae'n eu cymryd i sicrhau nad yw'r ansicrwydd ariannol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn tanseilio'r gwaith o gyflenwi gwasanaethau;
b) cyhoeddi cynllun gweithredu clir i ddychwelyd y bwrdd iechyd at ei statws arferol; ac
c) egluro'r mesurau y bydd y bwrdd iechyd yn eu cymryd i wella canlyniadau i gleifion.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i herio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fynd i’r afael â’i amseroedd aros a’i sefyllfa ariannol annerbyniol.
Yn nodi’r cymorth sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i weithio i sefydlogi ac adfer ei sefyllfa.
Yn nodi y bydd y cynnydd yn cael ei adolygu gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ddechrau mis Rhagfyr ac y bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn ystyried mesurau pellach y bydd raid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymgymryd â hwy er mwyn gwella.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd angen ehangu'r gweithlu'n sylweddol er mwyn datrys y materion a wynebir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n golygu y bydd angen cynyddu lefelau hyfforddiant nyrsio a meddygol.
(60 munud)
NDM6595 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi o ran cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar ei chyllideb:
a) nad oedd yn cynnwys cyhoeddiadau newydd penodol i Gymru; a
b) ei fod yn cynnwys adolygiadau ar i lawr ar gyfer twf economaidd, cynhyrchiant a buddsoddiad mewn busnesau.
2. Yn credu bod y newidiadau disgwyliedig i grant bloc Cymru yn adlewyrchu parhad mewn mesurau cyni aflwyddiannus yn hytrach nag adnoddau newydd.
3. Yn gresynu nad oedd cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar y gyllideb yn ymrwymo i roi unrhyw gefnogaeth i Forlyn Llanw Bae Abertawe.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i gael gwared ar y cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus.
5. Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau mwy o bwerau i wneud penderfyniadau ar fuddsoddiad mewn seilwaith ac economi Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnydd o £1.2 biliwn yng nghyllideb Cymru dros bedair blynedd o ganlyniad i symiau canlyniadol Barnett sy'n deillio o gyllideb y DU.
2. Yn nodi'r cynnydd o £67 miliwn yng nghyllideb Cymru o ganlyniad i'r fframwaith cyllidol a drafodwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
3. Yn nodi'r ymrwymiad yng nghyllideb y DU i ddechrau trafodaethau ffurfiol ar gyfer bargen twf gogledd Cymru.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl pwynt 3 ac ychwanegu pwyntiau newydd:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar y cap a osodwyd ganddi ar gyflogau’r sector cyhoeddus ac ariannu codiad cyflog i holl weithwyr y sector cyhoeddus yn llawn.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli mwy o bwerau i Gymru i wneud penderfyniadau am fuddsoddi mewn seilwaith er mwyn cefnogi economi Cymru.
(30 munud)
NDM6593 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Problem anweledig Cymru - effaith gymdeithasol hapchwarae
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 5 Rhagfyr 2017